Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
28 Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5368
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 5 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.34
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol archif ddarlledu genedlaethol i Gymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i gael hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r amgylchedd yng Nghymru, yn sgil adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus?
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad am Edith Picton Turberville - un o'r Aelodau Seneddol Llafur cyntaf yn y degawd ar ôl i fenywod allu sefyll i gael eu hethol i'r Senedd a sicrhaodd ddeddfwriaeth i atal menywod beichiog rhag cael eu crogi.
Dechreuodd yr eitem am 14.54
NDM6879 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gwerthu Cymru i'r Byd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.25
NDM6878 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd - Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.01
NDM6880 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6881 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
1 |
27 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
2. Yn cefnogi:
a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;
b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; a
c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
21 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
1 |
6 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6881 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
2. Yn cefnogi:
a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;
b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; a
c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.
5. Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
21 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NDM6882 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Parcffordd Abertawe: y camau nesaf ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe?
Daeth y cyfarfod i ben am 17.36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2018